CategoryFideo☩Video

The Coming

T

Mae ‘The Coming‘, gan y Cymro R.S. Thomas – a oedd yn fardd ac offeiriad – yn drosiad dwfn o ymgnawdoliad Iesu, ac eto mae’n siarad â’n sefyllfa ni heddiw.

Yn y gerdd mae’r geiriau’n creu cymysgedd gref o liwiau gweledol i adrodd stori Iesu’n dod yn un ohonom ni.

Fel llawer o’n carolau plygain Cymreig, sy’n cyfeirio at ddigwyddiadau Dydd Gwener y Groglith gymaint â Dydd Nadolig, mae’r gerdd yn cynnig delwedd o’r Groes fel coeden foel ar Galfaria.

Wrth ddychmygu’r berthynas rhwng Duw Dad a Duw’r Mab, mae’r gerdd yn sôn am anghyfannedd, poen ac awydd Iesu i ddod i’n hachub ni, bobl Dduw.

Rwy’n gweddïo bydd y gerdd hon yn siarad â chi, fel y mae i mi.

☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩



The Coming, by the Welsh preist-poet, R.S. Thomas, is a profound rendering of the incarnation of Jesus, yet it speaks of our situation today.

It is a poem whose words create a strong mix of visual colour to tell the story of Jesus becoming one of us.

Like many of our Welsh plygain carols, which refer to the events of Good Friday as much as Christmas Day, the poem offers an image of the Cross as a bare tree on Calvary.

In imagining the relationship between God the Father and God the Son, the poem speaks of desolation, pain and Jesus desire to come to save us, God’s people.

I pray that this poem speaks to you, as it does to me.

Negeseuon Nadolig 2019

N
Mae ‘Closed Captions’ (isdeitlau) ar gael wrth ddefnyddio’r botwm ‘CC’

Rwyf i’n falch i ryddhau ei negeseuon Nadolig.

Mae fy neges ysgrifenedig (isod), ‘Fedra i ddim credu hyn!’, yn ein herio ni i ddarganfod haelioni Duw wrth ddod i’r byd fel plentyn diymadferth.

Yn fy neges fideo Nadolig (sydd ar gael yn Saesneg hefyd), rwyf yn ystyried a yw stori’r Nadolig yn stori serch o chwith, ac yn ymweld â’r Caffi Pris Teg ym Mangor wrth i wirfoleddwyr y caffi yn paratoi i gynnal cinio Nadolig i’r digartref. Cafodd ei ffilmio ym Mangor, ar Fynydd Parys, ger Amlwch ac mae’n cynnwys delweddau o rai marchnadoedd Nadolig yn yr Almaen.

Mae ‘Closed Captions’ (isdeitlau) ar gael wrth ddefnyddio’r botwm ‘CC’ neu olwyn ddannedd ‘Settings’ ar Facebook.

Mae ‘na groeso i chi rannu a defnyddio’r negeseuon hyn a Nadolig llawen a dedwydd i chi i gyd.

🎄🎄🎄🎄🎄🎄🎄🎄🎄🎄🎄🎄🎄🎄🎄

‘Fedra i ddim credu hyn!’ (‘I don’t believe it!’)

Bydd dilynwyr Victor Meldrew yn cofio’n dda ei ebychiad rhwystredig, ‘I don’t believe it!’ mewn ymateb i gyfres o gyd-ddigwyddiadau damweiniol chwerthinllyd. Fe fase’r rhai ohonoch sy’n anghyfarwydd â ‘One Foot in the Grave’ yn mwynhau gwylio penodau ar YouTube neu iPlayer. Yn fynegiant o dalp o amheuaeth yn gymysg ag anghrediniaeth, daeth yr ymadrodd yn un o hoff ddywediadau’r 1990au.

Er ei fod yn llawn ffraethineb deifiol, mae rhywbeth ychydig yn ddyrchaf ôl, efallai, yn y geiriau. Ac yn Feiblaidd hefyd.  Pan glywodd Mair y newyddion ei bod am eni mab, nid yn annhebyg oedd ei hymateb cyntaf hi; pan ddywedwyd wrth y bugeiliaid bod Ceidwad byd yn gorwedd mewn cafn bwydo anifeiliaid, tebyg iawn oedd eu hymateb hwythau.

Dydy’r datganiadau hanesyddol rheini ddim yn cynnwys surni Victor, ond maen nhw’n rhannu’r un anghrediniaeth. Mewn gwirionedd, mae hi’n anodd pan fo’r blynyddoedd yn llunio disgwyliadau penodol am y byd, sut mae pethau i fod, be’ sy’n wir a be’ sy ddim. Ac felly, pan fo rhywbeth cwbl annisgwyl yn digwydd, sy’n chwalu ffiniau arferol yr hyn sy’n gredadwy, mae’n hawdd deall pam mai ‘Fedra i ddim credu hyn!’ ydy’r ymateb cyntaf.

Dwi wedi fy nghyffwrdd yn ddiweddar gan ddewrder yr adwaith rhyfeddol a welwyd ar Bont Llundain gan ddynion gwrol ac anhunanol neu gan y rhai sy’n gwrthod ildio i awyrgylch o anobaith a Brexit blinderus. Fe welais fywydau’n cael eu cyffwrdd trwy garedigrwydd banciau bwyd lleol a Chaffi Pris Teg ym Mangor a sut y gwelir newid yn amgylchiadau pobl bregus.  Mae hi’n ymddangos i mi fod y gallu hwn, i newid a chael ein trawsnewid, yn mynd at wraidd ystyr y Nadolig. Pan deimlwn ninnau Oleuni’r Byd yn treiddio ein tywyllwch ni neu ryfeddod Duw hael sy’n estyn allan yn y ffordd fwyaf anhygoel trwy fabi diymadferth, dyna pryd y daw’r Nadolig yn fyw.

Yr eiliad honno ydy’r groesfan lle gallwn un ai ymuno â’r angylion a bloeddio canu… neu styfnigo fel yr hen Victor a dweud ‘I don’t believe it’. Ni biau’r dewis.

+Andrew Bangor

Christmas Messages 2019

C
Closed Captions (subtitles) are available by using the button ‘CC’

Here are my Christmas messages for this year.

The written message (below), ‘ I don’t believe it!’, challenges us to discover the generosity of God in coming to the world as a helpless child.

In the video Christmas message (which is available in Welsh as well), I wonder whether the Christmas story is a love story in reverse, and it features Bangor’s Fair Price Café as volunteers prepare to host a Christmas lunch for the homeless. It was filmed in Bangor, on Parys Mountain, near Amlwch and includes images from some Christmas markets in Germany.

Closed Captions (subtitles) are available by using the button ‘CC’ or via the settings ‘cog’ on Facebook.

Please do share and use these messages and a blessèd Christmas to you all!

☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩

‘I don’t believe it’

Fans of Victor Meldrew will remember his unforgettable ‘I don’t believe it’ outburst and the riotous disasters which followed. Those unfamiliar with ‘One Foot in the Grace’ have a treat in store via YouTube or iPlayer. Synonymous with a scepticism born of incredulity, the words became the catchphrase of the 1990s.

Though dripping with caustic wit there is something, perhaps, salutary in the outburst. And Biblical too. When Mary was told the news she would bear a son her first response was little different; when the shepherds were told a Saviour was lying in a feeding trough, theirs was much the same.

All the ancient statements lack Victor’s acidity but they share the same disbelief. In truth, it’s hard when the years shape certain expectations about the world, the way things are, what’s true and what isn’t. And so, when something utterly unexpected happens, which breaks up these settled boundaries of belief, we can understand why ‘I don’t believe it’ becomes the first response.

I’ve been struck recently by the courage of some extraordinary behaviour whether seen on London Bridge by fearless and selfless human beings or by those who refuse to concede to an agenda of despair and Brexit fatigue. I’ve seen lives touched by kindness in local foodbanks and a Fair Price Café in the city of Bangor and how change takes place in the fortunes of vulnerable people. This capacity to change and be changed seems to me gets to the heart of what Christmas means. When we discover the Light of the World piercing our own darkness or the wonder of a generous God reaching out in the most extraordinary of ways through a helpless child, Christmas comes alive.

It’s at this point we might choose to join the angels and sing a bit. Or stick with Victor and say ‘I don’t believe it’. The choice is ours.

+Andrew Bangor


Enlli ☩ Bardsey : Wrth Adael – As I Leave

E
(Cliciwch CC am is-deitlau – Click CC for subtitles)


Ac felly i’r fideo olaf – fy sylwadau ar wythnos fel caplan ar Ynys Enlli.

Mae’n ynys arbennig iawn, gyda phobl arbennig – sydd, ynghyd ag Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, yn gofalu’n angerddol amdani.

Mae’n wir werth ymweld ag Enlli!

☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩


And so to the final video – my reflections on my week as chaplain on Bardsey Island.

It is a very special place, with special people – who along with the Bardsey Island Trust – care passionately about it.

It really is well worth a visit!

Enlli ☩ Bardsey : Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth – Chair of the Trust

E
(Cliciwch CC am is-deitlau – Click CC for subtitles)


Dr Rod Gritten yw Cadeirydd Ymddiriedolaeth Ynys Enlli.

Yn 40fed Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Ymddiriedolaeth, siaradais ag ef am yr heriau sy’n wynebu’r Ymddiriedolaeth wrth edrych ymlaen at y 40 mlynedd nesaf o gynnal a datblygu bywyd ar Enlli.

☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩


Dr Rod Gritten is the Chair of the Bardsey Island Trust.

At the 40th Annual General Meeting of the Trust, I talked to him to him about the challenges facing the Trust as it looks ahead to the next 40 years of maintaining and developing life on Bardsey.

Enlli ☩ Bardsey : Hanesydd – Historian

E
(Cliciwch CC am is-deitlau – Click CC for subtitles)


Mae Christine Evans yn fardd cyhoeddedig, sy’n byw ar Ynys Enlli am ran helaeth o’r flwyddyn.  Mae ganddi hefyd feddwl craff a diddordeb yn hanes yr ynys. 

Dyma ffilm weddol hir (30 munud), ond os oes gennych unrhyw ddiddordeb yn hanes amrywiol Bardsey (gan gynnwys gwyrthiau, ymweliadau brenhinol yn yr oesoedd ganol ac anfanteision tai mawr), bydd yn werth eich amser!  Mwynhewch!

☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩


Christine Evans is a published poet, who lives on Bardsey Island for much of the year. She also has a sharp mind and interest in the history of the island.

This is a fairly long film (30 mins), but if you have any interest in the varied history of Bardsey (including miracles, medieval royal visits and the disadvantages of large houses), it will be worth your time! Enjoy!

Enlli ☩ Bardsey : Cristnogaeth ar Enlli – Christianity on Bardsey

E
(Cliciwch CC am is-deitlau – Click CC for subtitles)


Mae gan Ynys Enlli dreftadaeth Gristnogol hir.

Mae ‘na dystiolaeth y gallai rhai Cristnogion cynnar iawn fod wedi cymryd drosodd rhai anheddau cyn-Gristnogol cyn dyfodiad Cadfan, a sefydlodd y fynachlog gyntaf ar yr ynys yn 516AD. O dan y mynachod Awstinaidd canoloesol, daeth Enlli yn lle pererindod, cyn diddymu’r mynachlogydd a bwlch tan ddyfodiad Anghydffurfiaeth.

Rŵan, mae Bardsey unwaith eto yn lle i bererinion Cristnogol a chaplaniaeth. Mae tystiolaeth Gristnogol Enlli yn esblygu o hyd.

☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩


Bardsey Island has a long Christian heritage.

There is evidence that some very early Christians might have taken over some pre-Christian dwellings before the arrival of Cadfan, who set up the first monastery on the island in 516AD. Under the medieval Augustinian monks, Bardsey became a place of pilgrimage, before the dissolution of the monasteries and a gap then to the advent of Non-Conformity.

Now, Bardsey is once again a place for Christian pilgrims and chaplaincy. Bardsey’s Christian witness continues to evolve.

Enlli ☩ Bardsey : Y Ffermwr – The Farmer

E
(Cliciwch CC a dewis ‘Cymraeg’ am is-deitlau – Click CC and chose ‘English’ for subtitles)


Mae Gareth Roberts yn byw ar Ynys Enlli am ran helaeth o’r flwyddyn ac yn rhedeg y fferm yno.

Mae hanes hir o ffermio ar yr ynys, ond rŵan, mae Gareth yn ffermio’r ynys mewn ffordd sy’n caniatáu i’r adar a’r bywyd gwyllt ffynnu.

Roedd yn berson hynod ddiddorol i siarad ag ef.

☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩


Gareth Roberts lives on Bardsey Island for much of the year and runs the farm there.

There is a long history of farming on the island, but now, Gareth farms the island in a way that allows the birds and wildlife to flourish.

He was a really interesting person to talk to.

Recent Posts

Recent Comments

Archives

Categories

Meta

canonrobert

Get in touch

Quickly communicate covalent niche markets for maintainable sources. Collaboratively harness resource sucking experiences whereas cost effective meta-services.