Dyma fy Neges Fideo’r Pasg ar gyfer 2019.
Roedd yn bleser siarad â Jonno Jones am ei ffydd ers iddo ddod yn weddw, yn ogystal ag ymweld â Phont ar Fynach, Abergeirw ger Trawsfynydd – safle bedd Cristion cynnar – lle’r oeddwn yn adfyfyrio ar beth mae bedd gwag Iesu yn ei olygu i ni wrth i ni ddathlu Pasg eleni.
Gobeithio y byddwch yn mwynhau’r fideo hwn a dymunaf fendithion a llawenydd i chi’r Pasg hwn.