Diliau’r nef?

D

Gyda chyfyngiadau’r cyfnod clo yn disgyn ar lawer o’r wlad unwaith eto a mwy o bobl yn cael eu heintio, mae ein sylw, eto fyth, yn cael ei hoelio ar realiti ansicrwydd. Nid yw’r ansicrwydd hwn yn gyfan gwbl annisgwyl; roedd gwleidyddion a gwyddonwyr meddygol wedi rhybuddio y byddai ail don y pandemig yn cyrraedd erbyn misoedd y gaeaf. 

Ond daeth yr ail don yn gynharach na’r disgwyl, sy’n codi’r cwestiynau a yw polisi cymdeithasol wedi cyfrannu’n uniongyrchol at amseriad a lledaeniad y firws. Yr hyn sy’n gwneud yr ail don mor niweidiol yw ei bod yn bygwth unrhyw adfer ar ôl y cyfnod clo cyntaf. Mae busnesau’n honni fod yr ail gyfnod clo hwn yn tanseilio’r adfer ar ôl y cyfnod clo cyntaf, yn creu ansefydlogrwydd ac yn niweidio hyder, sydd eisoes yn hynod fregus. Mae’n ymddangos mai ansicrwydd sefydlog fydd y ‘normal newydd’ ac y bydd yn anodd, ac yn broblem paratoi, hyd yn oed y cynlluniau mwyaf syml.

Mae effeithiau’r pandemig ar swyddi a ffyniant yn amlwg ac yn real, ac er bod astudiaethau ar raddfa a difrifoldeb y difrod ar iechyd meddwl yn dal ar y gweill, dim ond ychydig iawn sy’n amau y bydd canlyniadau’r cyfnodau clo yn ddwys ac yn hir dymor. Yr hyn sydd wedi gwneud her y pandemig hwn mor neilltuol yw nad ydym ni, ers yr ail ryfel byd, wedi arfer â’r math o amddifadedd y mae’n ei greu. Dydyn ni, yng ngorllewin Ewrop, ddim wedi arfer dygymod â gorfod byw gyda’r math o fywyd bregus mae ein brodyr a’n chwiorydd mewn rhannau eraill o’r byd yn ei gymryd yn ganiataol.  

Dyw’r heriau mae’r eglwys yn wynebu fawr gwahanol i rai mewn rhannau eraill o gymdeithas – colli economi, cefnogwyr, morâl ac efallai, yn waeth na dim, colli gweithgareddau a dod at ein gilydd. Pan mae llawer iawn o’r ffordd rydyn ni’n gweld ein gilydd wedi gwreiddio yn y pethau rydym ni’n eu gwneud, gallai colli hynny sigo ein hunaniaeth. Yn ôl rhai arwyddion cynnar, gallai rhai gweinidogion a rhai eglwysi, wedi’u hamddifadu o’r tasgau allweddol, ei chael yn anodd i ail uniaethu neu gynnal gweledigaeth o weinidogaeth sy’n nerthu.

Y cwestiwn rwyf eisiau ei drafod yn y papur hwn yw a oes yna enghreifftiau yn yr Ysgrythur a allai fod yn fodel  o fodolaeth a diben i’n cynnal ar adeg fel hyn o amddifadedd. Byddaf yn ystyried yn fyr rai digwyddiadau allweddol a thrafod a yw’r awydd dealladwy i allu rhagweld  a gwybod, yn y pendraw, yn cul de sac ac a fyddai gwersi sy’n canolbwyntio ar ddisgwyl a gwrando yn fwy buddiol yn y pendraw.

Mae’r Ysgrythur Sanctaidd yn llawn o enghreifftiau o dduwioldeb yn cael ei gyflwyno mewn iaith bygwth-erfyn-iachawdwriaeth (weithiau mewn gwahanol drefn) ac o gysyniad.  Mae’r Salmydd (Salm 64:1f), er enghraifft, yn galw ar Dduw i glywed ac yna weithredu yn wyneb gelynion; daeth proffwydi megis Elias yn gyfrwng traddodi, yn aml yn wyneb anawsterau enbyd (1 Brenhinoedd 17:7f).  Roedd hyd yn oed frenhinoedd, oedd yn aml yn achosi yn hytrach na datrys helyntion, weithiau’n cydnabod eu dibyniaeth ar Dduw yn wyneb her (2 Cronicl  20:12).  Yng nghyd-destun bygythiad firws, mae colli’r rhyddid rydym ni’n ei gymryd yn ganiataol, a cholli cyfleoedd a swyddi, yn taro tant gyda’r hanesion hyn o fygythiadau a heriau.  

Mae bygythion o bla a heintiau yn gyffredin iawn yn yr Ysgrythurau.  Yn stori’r ecsodus, daeth y clefyd nychu yn uniongyrchol oddi wrth Dduw.   Nid dyma’r tro cyntaf i haint ddod fel barn – teimlodd Pharo ganlyniadau twyll Abram oherwydd Sarai.  Mae’r ddedfryd hon a ‘gamleolwyd’ yn canolbwyntio llai ar wrthrych y ddedfryd nac ar y drosedd o dorri gorchymyn a chyfraith ddwyfol.  Mae’r hyn sy’n ymddangos yn ddiwahân, hyd yn oed yn afresymol, yn colli’r pwynt;  mae’r stori ynghylch y cysylltiad clos rhwng Duw a chyfraith, sydd wedi’i wau i ddeunydd y cread.  Mae torri’r gyfraith yn drosedd yn erbyn Duw, waeth pwy sydd ar fai. 

Ond mae yna hanesion eraill yn yr Ysgrythurau, a ddylai fod yn yng nghanol y llwyfan ar hyn o bryd, sy’n gwahodd yr eglwys i ail ddysgu’r patrymau a’r rhythmau oedd wedi ei harwain yn y gorffennol ac a allai ei harwain eto.  Realiti’r pla yn y salmau yw’r bygythiad sy’n gwahodd erfyn a gwaredigaeth.  Ond nid yw bagl yr heliwr na phla difäol yn ddim o gymharu â iachawdwriaeth Iahwe os bydd y ffyddloniaid yn gwneud y Goruchaf yn amddiffynfa (Salm91). 

Yr hanesion sy’n gosod y seiliau mwyaf amlwg ar gyfer gweithio yw’r digwyddiadau mwyaf sylfaenol yn yr Hen Destament.  Mae profiadau’r yn yr anialwch yn Ecsodus  a’r hanesion o garchar ac o alltudiaeth yn dyst i’r un profiad o her a bygythiad.   Mae’r ddau hefyd yn disgrifio cysylltiad newydd â Duw ac o ail ffurfio patrymau a dealltwriaeth sefydlog.  Yn y ddau hanes, ai yn digwydd yr un pryd mewn hanes â’r ‘digwyddiadau’ ai peidio, mae yna addewidion penodol yn dangos canlyniad penodol a hefyd orchmynion mwy cyffredinol sy’n awgrymu fod ymateb i’r heriau gyda ffyddlondeb a dim mwy yn hollol dderbyniol.  Hyd yn oed pan nad yw’r patrwm hwn yn hollol gyson, mae’n ddigon cyson i awgrymu nad ‘atebion’ yn unig sydd yma ond ymateb ffyddlon. 

Mae nodweddion stori Ecsodus yn ddrama epig o’r tro cyntaf y mae Moses yn cyfarfod â Duw a’i anfodlonrwydd i wneud dim llawer mwy na bugeilio’r praidd hyd at y foment y mae’n sylweddoli na fydd yn gweld gwlad yr addewid yr hiraethodd gymaint amdani.  Yn rhedeg trwy lawer o lyfrau cynnar yr Hen Destament mae’r disgrifiad o sut y ffurfiwyd yr Hebreaid yn genedl.  Yn dilyn bygythiad Pharo, daw bygythiad newydd, sef dysgu bod yn ffyddlon yn ehangder yr anialwch.   Y cyfnod o grinder yw’r cyfnod o sefydlu’r gyfraith.  Mae’r cyferbyniad rhwng tirwedd clir y ffin gyfreithiol a bywyd mwy bregus o amddifadedd yn awgrymog.  

Daw’r anialwch digroeso yn gyd-destun felly ar gyfer y ffurfiant y mae’r gyfraith yn gofyn amdano.  Mae yna her ymhlyg yn y ddau: mae natur o’u cwmpas yn giaidd a chreulon, ac nid yw gofynion y gyfraith yn llai llym.  Mae un yn dangos y cyd-destun, y llall yn dangos y ffordd o fyw ynddo. 

Mae’r alltudiaeth hefyd yn cynnwys taith a dadleoli.  Y tro hwn, o Jerwsalem i Fabilon. I rai, roedd hwn yn gyfnod o garchar, i eraill roedd yn gyfle gwych i fanteisio’n economaidd.  Ond er hynny, roedd cael eu dadleoli o wlad yr addewid yn brofiad chwerw i’r rhai oedd yn ofni Duw.  ‘Sut y medrwn ni ganu cân yr Arglwydd mewn tir estron (Salmau 137.4) oedd eu cri – ymhell o Seion, ymhell o Dduw eu hargyhoeddiad. 

Roedd y symudiad yn y ffordd yr oedd Duw’n cael ei weld ymhell o wlad yr addewid yn sylfaenol.  Agorodd y profiad newydd o Dduw y ffordd i ffydd fynegi ei hun, wedi’i rhyddhau i’i dadleoli, hyd yn oed pan oedd y wlad yn dal yn addewid bod dychwelyd iddi’n ddisgwyliad cadarn.  Roedd y darganfyddiad hwn (fel yng ngweledigaethau Eseciel wrth afon Cebar) nid yn gymaint o newid y patrwm diwinyddol – roedd Iahwe wedi cael ei addoli’n Duw nefoedd a daear ers cryn amser – ag o godi Duw o le penodol, o ddarn penodol o dir, ac awgrymu nad un ffordd yn unig sydd yna o edrych ar, a darganfod, a dod i adnabod, yr Arglwydd.  

Yn y Testament Newydd, gallwn gyfeirio at brofiadau Paul sy’n cael eu hadrodd yn 2 Corinthiaid 12:1f neu o’r apostol, mewn carchar Rhufeinig ond yn llawn gobaith a hyder o’r atgyfodiad (Philipiaid  3:10).  Mae’r ddau yn dangos nad yw’r cyd-destun yn cyfyngu ar ffydd nad yw’n gallu gweld beth yw’r diwedd ond sy’n gwahodd ffydd ac ymddiriedaeth.  Mae ffydd yn cael ei ffurfio gan gyd-destun ond nid yw’n cael ei erydu ganddo.  

Sut y gallai’r sylwadau hyn effeithio arnom ni heddiw? Mae’n hawdd ceisio darganfod diben moesol neu ddiwinyddol yn y digwyddiadau o’n cwmpas: beth mae’n ei olygu neu beth yw gwers Duw? Er yn ddealladwy, mae’n debyg nad dyma’r cwestiynau y dylid eu gofyn.  Y tu ôl i fynegiant ffydd, mae’r syniad fod Duw yn cyfeirio digwyddiadau, fel rhyw chwaraewr gwyddbwyll dwyfol, yn gyfeiliornus.  Mae’r profiad o ecsodus ac o alltudiaeth yn awgrymu fod yna gryn dipyn i’w ddysgu a bod y grefft o ystyried yn fyfyrgar yn dod ag atebion sy’n awgrymu nid yn gymaint atebion ond cyfarwyddiadau, sut i aros yn ffyddlon pan fo bywyd yn  gwasgu ac yn heriol. 

Mae’r eglwys yn rhannu’r amddifadedd sydd i’w deimlo ar draws cymdeithas ar hyn o bryd.  Mae cyfyngiadau ar addoli o dan do, problemau ynghylch cyfarfodydd cymdeithasol ac, i weinidogion, bod llawer o’r cysylltiadau wyneb yn wyneb, mewn argyfwng neu’n fwy cyffredinol, yn hynod o anodd eu cynnal.  Mae llawer iawn o weinidogaeth wedi’i gyfyngu neu wedi crebachu gymaint nes bod dryswch ac ansicrwydd yn heriau gwirioneddol.  Ac eto, o fewn hynny, mae yna ail drefnu addoli a chenhadu ar lein, ac, wrth i’r Nadolig ddynesu, mae yna greadigedd o amgylch defnyddio carolau a dathliadau’r gaeaf sy’n awgrymu fod addasu’n fwy naturiol a greddfol nag a fydden ni’n dybio. 

Yn y Testament Newydd, tystiolaeth Sant Paul oedd nad oedd yn adnabod yr ‘olygfa bell’ ond ei fod yn gwybod bod yn rhaid iddo fod yn ffyddlon tan y diwedd un. Nid dal i lynu at gredo nad oedd digwyddiadau bob dydd yn rhoi mynegiant iddo oedd y penderfyniad hwn.   Yn hytrach, roedd yn golygu ail ddysgu ac ail ddarganfod pethau yn nhrugaredd di-derfyn Duw.  Nid cyd-ddigwyddiad hapus oedd y cyfle i rannu Crist gyda holl swyddogion y carchar, roedd Paul wedi darganfod diben yn y sefyllfa, er nad oedd yn amlwg beth fyddai’n digwydd yn pen draw.  A oes yna fesur ar y graddau y mae Duw’n galw arnom ni i anghyfforddusrwydd parhaus, oherwydd, o fewn pwysau o’r fath, y mae bywyd yn ymddangos.  Mae Sant Paul yn cadw realiti’r groes a’r atgyfodiad gyda’i gilydd yn ei lythyr at Gristnogion Corinth oherwydd, yr union adeg y mae marwolaeth wrth ei waith, mae bywyd yn atgyfodi hefyd (2 Corinthiaid 4:12). 

 Mae dysgu a deall beth sy’n digwydd o’n cwmpas ac oddi mewn i ni yn golygu disgwyl yn amyneddgar, sy’n wahanol iawn i ruthr bywyd a chynnydd.  Mae’n caniatáu’r cyd-destun sy’n agor llwybrau newydd i fyfyrio a dyna pryd mae diben yn cael ei ddarganfod, yn hytrach na’r rheswm pam fod rhywbeth yn digwydd.  Yn y pen draw, mae’n galw arnom ni i gyd, yn ddisgyblion ac yn weinidogion fel ei gilydd, i gael ein rhwymo wrth arferion da Duw, i beidio â digalonni ac i fyw gyda’r hyn y mae’n rhaid i’r Eglwys ei ddysgu, hyd yn oed os yw hyn yn edrych fel diliau’r nef, a diliau digon pitw hefyd.

+Andrew Bangor

Add comment

Recent Posts

Recent Comments

Archives

Categories

Meta

canonrobert

Get in touch

Quickly communicate covalent niche markets for maintainable sources. Collaboratively harness resource sucking experiences whereas cost effective meta-services.