Dillad yr Ymerawdwr ac Oel Nadroedd

D
Llun : Twitter – Chris Kubecka

Ydy cyfryngau cymdeithasol yn democrateiddio newyddion a barn? Sut ddylen ni ymateb?

Y cwestiwn, fel y’i gofynnir weithiau, ydy p’un ai fod datblygiad llwyfannau cyfryngau cymdeithasol newydd wedi democrateiddio newyddion a barn mewn ffordd a fu unwaith yn eiddo llwyr i’r papurau dyddiol, yntau wedi agor y drysau i fynegiant ystrydebol, peryglus ac enllibus o’r math mwyaf eithafol.

Yr anhawster gyda gosod y cwestiwn yn y modd yma trwy or-symleiddio’r dewis rhwng dau yn gallu arwain at ateb braidd yn gamarweiniol. Mae ‘y ddau’ yn edrych ynddo’i hun fel ateb ystrydebol i’r cwestiwn, er ei fod yn fwy tebygol o fod yn wir na pheidio.   

Mae newidiadau cymdeithasol diweddar wedi amlygu rhwygiadau a thensiynau sydd, o’u mynegi yn y gymdeithas, p’un ai trwy’r papurau tabloid neu’r rhan fwyaf o’r cyfryngau cymdeithasol arferol, wedi hyrwyddo yn ogystal ag amlygu’r modd y mae trafodaeth, barn a sylwadau, ymgysylltu ac anghytundeb wedi dirywio a gwaethygu. Prin y cafwyd cyfnod lle gwelwyd lefelau amarch at ferched, ofn, gwawd, casineb a dirmyg eithafol wedi bod yn fwy amlwg yng nghylchoedd cyhoeddus. Rydyn ni wedi darganfod ffyrdd newydd o sarhau a dilorni pobl i’r graddau nas profwyd o’r blaen (‘Snowflakes’ a ‘Remoaners’ i enwi ond dau) a normaleiddio geirfa casineb, nid yn unig er mwyn pardduo eraill ond fel arf i gywilyddio, cau cegau ac eithrio eraill o’r drafodaeth.

Mae materion yn ymwneud â rhyddid barn yn ein prifysgolion yn parhau i fod yn broblem, pwnc a ddaeth i’r amlwg yn fwy diweddar yn y ddadl ynghylch pobl traws a rhai sectorau o’r lobi ffeministiaeth, sydd wedi dangos bod ymgysylltu yn fater heriol a chymhleth yn y modd mae’n caniatáu safbwyntiau i ryngweithio heb fod angen unrhyw ymdrech ar ran unrhyw un (o leiaf ar y dechrau) i wrando ar, parchu, deall neu newid safbwyntiau.

Ychwanegwch at hyn yr ystyriaethau moesol, yn ogystal â’r rhai cyfreithiol a gwleidyddol. Yn syml, dydy’r ffaith ein bod ni’n cael dweud rhywbeth ddim yn golygu y dylen ni ddweud unrhyw beth. Mae’n werth crybwyll y doethineb sydd i’w gael yn 1 Corinthiaid 6:12f, ochr yn ochr â’r gorchmynion mwy dramatig a thrawiadol ym Mathew 5 (ad. 29-30).

Ochr yn ochr â’r diraddio sydd ar drafodaeth, ceir bygythiad pellach i gydnabod. Pan ddywedodd Iesu y dylai eich ‘ie’ olygu ‘ie’ a’ch ‘na’ olygu ‘na’, mae’n rhaid ei fod yn cymryd yn ganiataol fod yna graidd sylfaenol o wirionedd cydnabyddedig yn bosib (Mathew 5:37). Mae hi’n amhosib cydsynio â rhywbeth os ydy’r rhywbeth hwn un ai’n rhy hyblyg i’w ddiffinio neu mor agored i wahaniaethiad a barn fel ei fod wedi’i gymaroli’n llwyr, gan ddiweddu’n fawr mwy na mater o farn.

Ac wrth gwrs, dyma o le daw’r ymadrodd bachog a thwyllodrus ‘ffug-newyddion – fake news’ i’r adwy. Fe’i defnyddiwyd fel offeryn yn yr ymddiddan gwleidyddol cyn, yn ystod ac wedi’r etholiadau arlywyddol diwethaf yn yr Unol Daleithiau ond bellach, mae wedi ffeindio’i ffordd i bob twll a chornel ein byd. Debyg i werthiant oel nadroedd mewn cyfnod arall pan ellir anwybyddu ffeithiau’n gyson, nid yn unig mae wedi arwain at ystumio a chyfnewid un categori ystyr am un arall, mae wrthi’n creu effaith atgas a dinistriol ar gymdeithas.

Mae James O’Brien yn ‘How to be right in a world gone wrong yn codi cwr y llen ar ba mor gyffredin mae camganfyddiadau a haeriadau gwirion yn cael eu derbyn a’u lledu, hyd yn oed o gael eu herio. Mae seicoleg hyn i gyd mor ddiddorol ag y mae’n frawychus. Mae’r achlysuron lle mae’r galwr, wedi’i wynebu â gwacter ei ddadleuon a’i ddatganiadau, yn newid ac yn cydnabod persbectif newydd, yn llai na’r hyn a obeithiwn. Mewn gwirionedd, mae’n awgrymu nad yr anallu i newid meddwl ydy’r broblem ond, yn hytrach, amharodrwydd. Efallai, y tu hwnt i ffiniau amgylchedd talwrn benben y sioe ffonio-i-mewn, a hynny yn wyneb un o feddyliau mwyaf praff y byd darlledu cyfoes, bod myfyrio tawel yn digwydd. Cam o ffydd fyddai credu mai hynny sy’n digwydd.   

Felly, sut (i ddefnyddio teitl llyfr O’Brien) ddylen ni wneud yr hyn sy’n iawn mewn byd sydd o chwith? Y cam cyntaf ydy gwybod eich stwff. Roedd yr Ymerawdwr, a gafodd ei dwyllo i baredio’n ddiddillad, yn gwbl ddiarwybod a bodlon ei fyd hyd nes i eraill dynnu ei sylw at yr hyn a oedd yn amlwg i bawb ac iddo fo sylweddoli gwirionedd noeth ei sefyllfa. Mae cynllwyn y rhai fu’n hybu ac yn bwydo’r celwydd yn ychwanegu’n ddestlus at y ddeinamig: mae angen i rywun wybod p’un ai bod yr honiad am Calvin Klein yn rhith neu ei fod yn ddilledyn o safon go iawn.

Yn ail, mae traddodiad a goleddir gan Gristnogion, sef ‘galw allan’. Mae’n golygu enwi’r gwirionedd. Mae wedi’i wreiddio yn y traddodiadau proffwydol a’r dywediadau o ddoethineb lle mae celwyddau’n cael eu gorfodi i olau dydd a’r hyn sy’n gudd yn dod i’r amlwg. Roedd Iesu’n arbennig o dda am ddwyn sylw at yr hyn a oedd yn ysgogi ac yn gyrru’r ymatebion a oedd yn groes i’r rhesymau a nodwyd.  

Yn drydydd,  ceir yr alwad i weithredu. Mae’r lleidr anweledig a ddisodlodd poster hiliol gyda phoster o gath yn enghraifft fach dda o ddinoethi a gwatwar yr hiliaeth, yn ogystal â’i symud hefyd. Gall ddatrysiadau Cristnogol neu weithredoedd o ddileu fod yn fynegiant mwy pwerus o brotest a gras y Deyrnas na geiriau yn unig.

Yn bedwerydd, ceisiwch feithrin y ddawn o wrando’n dda. Dydy cyflwyno materion ac ymgysylltu ddim bob amser y ffyrdd mwyaf ysgogol. Mae ceisio dal pen rheswm yn galed trwy lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol ond fe all cydnabod a chyfaddef yn onest o leiaf ganiatáu lleihau’r lefelau o daflu baw.  

Yn bumed, dysgwch i gynnig naratifau eraill. Gwedd y Gristion ar fywyd ydy fod newid yn bosib gyda Duw. Dydy gwrthweithio’r sylwadau dinistriol a’r araith o gasineb ddim ond cystal â dewis amgen sy’n cynnig rhywbeth o Grist a daioni.  

Mae gwyddor gymdeithasol yn awgrymu, wrth i dechnoleg ddatblygu, y gallen ni golli’r gallu i reoli a gweithredu’n dda oddi fewn i amgylchfyd newydd sy’n gynyddol newid o flaen ein llygaid. Mae’r gallu i ddatblygu a chynyddu gwybodaeth yn datblygu’n gynt na’r gallu i ymdopi a delio â fo. Yn ei dro, mae llunio doethineb dyfnach sy’n addas i bob oes yn ymddangos yn fwy pwysig nag erioed.

+Andrew Bangor

Add comment

Recent Posts

Recent Comments

Archives

Categories

Meta

canonrobert

Get in touch

Quickly communicate covalent niche markets for maintainable sources. Collaboratively harness resource sucking experiences whereas cost effective meta-services.