Gyrwyr ofn a Chicken Licken

G

Dyma fi’n adfyfyrio ar fy mhrofiad ac yn gofyn beth sy’n rhwystro’r eglwys rhag cymryd penderfyniadau dewr, mewn meysydd fel mentrau gweinidogaethol a pholisi cymdeithasol, er enghraifft?

Yn stori Chicken Licken, mae ein harwr yn camgymryd mesen yn disgyn ar ei ben am rywbeth llawer mwy dychrynllyd:  fod yr awyr yn disgyn. Ar ei ffordd i ddweud wrth y Brenin, mae’n cyfarfod Ducky Lucky, Henny Penny, Goosy Loosy, Turkey Lurky, Drakey Lakey, Cocky Lockey ac, yn olaf, Foxy Loxy. Ond nid diweddglo hynod ddramatig y stori hon yw’r pwynt yn y papur hwn.  Mewn gwirionedd, mae eu dihangfa oddi wrth farwolaeth sicr yn gorffen gyda phawb wedi anghofio pam eu bod ar eu taith.  Doedd yr awyr, wrth gwrs, ddim wedi disgyn. 

Yn y papur hwn, fel hoffwn i drafod rhai o’r pethau sy’n gyrru ofn ac sy’n bygwth atal yr eglwys rhag cymryd penderfyniadau dewr.  Fe hoffwn i ystyried rhai materion gweinidogaethol a rhai problemau ynghylch rhywioldeb pobl.  Bob tro, rwy’n gweithio o fewn fy nghyd-destun i fy hunan – Esgob mewn esgobaeth fawr yng ngogledd Cymru lle mae’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu’n yn gwahodd newid dewr yn hytrach na bod yn gaeth i’r hen drefn na all ond arwain at un peth.  Mae’r hanes Cristnogol o gariad anturiaethus yn cynnig gorchymyn gwahanol iawn, gyda goblygiadau sydd, wrth gwrs, yn berthnasol yn ehangach. 

Gweinidogaeth Ddewr

Yr athronydd a’r cymdeithasegwr o’r Almaen, Max Weber, oedd y cyntaf i ddefnyddio’r ymadrodd ‘awdurdod y ddoe diderfyn’.  Roedd dadansoddiad Weber yn cyfeirio at wahanol ffynonellau o awdurdod gwleidyddol, ond, at ein dibenion ni, mae’r geiriau’n awgrymu’n gryf rywbeth arall.  Rydyn ni wedi cael ac wedi etifeddu ffordd o weithredu fel eglwys nad yw’n gynaliadwy ar ei ffurf bresennol.  Doethineb yr Ardal Weinidogaeth, sydd wedi’i mabwysiadu gan bob esgobaeth yn yr Eglwys yng Nghymru, oedd sylweddoli’r potensial ar gyfer gweithio’n well, gwneud gyda’n gilydd yr hyn na allwn ni ei wneud ar ein pen ein hunain.  Fe wnaed hyn, nid i fychanu’r hyn sy’n cael ei drysori mewn eglwysi lleol ond i godi rhai o’r penderfyniadau strategol allweddol i lwyfan uwch.  Efallai y gallai Ardaloedd Gweinidogaeth sy’n cael trafferth i gynnal gwaith ieuenctid llwyddiannus ar eu pen eu hunain, er enghraifft, ymuno gydag Ardaloedd eraill ac â’r esgobaeth i gael cyllid cynaliadwy ar gyfer y math yma o ymrwymiad.  Mae rhannu cyfrifoldeb ariannol am holl fywyd yr eglwys o fewn Ardal Weinidogaeth wedi rhoi awdurdod i Gynghorau Ardaloedd Gweinidogaeth i gynllunio ar draws meysydd ehangach a buddsoddi mewn meysydd gyda’r potensial mwyaf.  Mae cael set gyfun o gyfrifon, ymrwymiad clir i gynllunio ar gyfer eiddo a chenhadaeth, wedi galluogi canolbwyntio’n well a chael diben gliriach i roi gwell cyfeiriad i’n cynllunio. 

 Ond, mae’r dasg o sefydlu ymarfer da mewn Ardaloedd Gweinidogaeth wedi dangos llesgedd cyson ac ymlyniad i’r hen ffyrdd nad yw fawr gwahanol i eiriau Weber.   Mae yna yrwyr ofnau sy’n real ac yn rymus ac sy’n llesteirio gweinidogaeth yr eglwys.  Mae unffurfiaeth y gwasanaeth a ddarperir, o litwrgi i iaith, diwylliant a strwythur yn ffurfio fframwaith sylfaenol bywyd yr eglwys.  Ychydig iawn mae’r ychydig o eithriadau i’r realaeth sefydlog hon yn newid ar y patrwm unffurf hwn.  Mae’r pandemig rydyn ni’n mynd trwyddo wedi cyflymu ymhellach y cwestiynau ynghylch cynulleidfaoedd yn teneuo gyda llai o adnoddau ariannol ac adeiladau sydd, yn amlach na pheidio, yn fwrn yn hytrach nag yn ased. 

Mae pawb yn gwybod beth yw’r potensial ar gyfer llawer o’n hadeiladau: mannau o ddefnydd cymdeithasol, eglwysi pererin, betysau (tai gweddi) neu ganolfannau ar gyfer ieuenctid a theuluoedd.  Ond, mae yna resymau ariannol pam fod y math yma o arloesi yn symud penderfyniadau i’r cyfeiriad gwahanol:  rydyn ni’n poeni pan na fydd adeiladau, bellach, yn fannau addoli ac mae colli cyfraniadau cynulleidfaoedd yn gwneud yr Ardal Weinidogaeth yn llai hyfyw.  Rydyn ni’n poeni bod angen cymaint o waith, ac yn aml, arian i wneud y newidiadau hynny.   Rydyn ni’n poeni oherwydd ein bod ni weithiau’n wynebu gwrthwynebiad croch a blin, sy’n gallu bod yn bersonol ac yn ddi-ddiwedd.  Mae’r gyrwyr ofn hyn yn real ac ni ddylid eu hanwybyddu.  Maen nhw’n creu oedi dwfn ar lefel leol. 

Yr her i’r eglwys yw wynebu hyn gyda’n gilydd yn benderfynol, yn unedig ac yn gadarn.  Mae hynny’n swnio’n hawdd i’w wneud ond mae’n gofyn am gryn newid mewn perthynasau gwaith, cefnogaeth a hyfforddiant.  Anaml mae hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth yn magu’r sgiliau sydd eu hangen wrth reoli cau neu i roi defnydd newydd i adeiladau mewn ardaloedd.  Mae trefnu hyn ar lefel esgobaeth yn gofyn am fuddsoddi cryn amser ac arian, ac mae wedi cychwyn yn esgobaeth Bangor o dan ein cynllun Ezra a’r cynlluniau eiddo, ond mae’n gostus o ran amser ac arian ac yn hynod rwystredig i gydweithwyr sydd eisiau ymateb gydag arloesedd a ffydd. 

Ar ben yr angen am hyfforddiant ffurfiannol ychwanegol, mae yna hefyd fethiant o ran dychymyg a modelu ar lefel uwch.  Fel Eglwys, rydyn ni’n gorfod edrych i lawr yr hierarchaeth i weld arloesedd a newid.  Efallai ein bod ni’n euog o fethu modelu ac arwain y newidiadau rydyn ni’n gobeithio eu gweld.  Mae’n rhy hawdd gobeithio y bydd hyfforddiant gweinidogaethol yn datrys ein methiannau.  Weithiau, rydyn ni angen y craffter i ddeall sut y mae galwedigaethau’n dibynnu ar fod pobl yn cael cip ar yr hyn sy’n bosibl.  Dylai uwch arweinwyr yr eglwys fod yn ddewr ac yn uchelgeisiol wrth arwain newid a hefyd fod yn ddigon diymhongar a doeth i gymryd risg wrth wneud pethau newydd a dysgu hyd yn oed pan mae hynny’n gymhleth ac yn gostus i ni. 

 Fe ddylem ni fod yn glir yn ein tasg sylfaenol, sef rhannu’r efengyl gyda chymaint â phosibl.  Ond bydd angen tomen o wahanol gymunedau eglwysig i wneud hyn yn gredadwy mewn cymdeithas sydd, ei hunan, yn dod yn fwy ac yn fwy amrywiol.   Bydd yn rhaid i’r potensial ar gyfer plannu eglwysi, cymunedau blaengar ac hyd yn oed y fenter efengylu newydd, Cymru Gyfan, sy’n ceisio efengylu mewn ffyrdd gwahanol a newydd, lwyddo i newid ac ailffurfio tirwedd yr eglwys gyfan os ydym ni i symud ymlaen.   Yn ogystal â phlannu eglwysi a mentrau blaengar, mae’n rhaid i ni hefyd gynyddu gwytnwch a dysgu ac archwilio ffydd yn ddyfnach ymysg ein holl gymunedau eglwysig.  Mae’r pandemig diweddar wedi dysgu llawer i ni ynghylch ein gallu rhyfeddol i addasu a bod yn fyw hyblyg, mae hefyd wedi dangos i ni lle mae mwy o waith i ni ei wneud i gyflawni ein tasg graidd o fod yn ffyddlon ac yn dystion i Grist a dod â newyddion da i eraill. 

Yr hyn a fydd un ai’n chwalu neu’n gwireddu’r weledigaeth hon yw nid a yw cymdeithas wedi gwrthod y ffydd Gristnogol ac nid hyd yn oed y cyfyngiadau ariannol real iawn, ond a fyddwn ni wedi bod yn ddigon dewr ac wedi bachu ar y cyfle i lunio bywyd yr eglwys i wynebu’r her. 

Priodas gyfartal

Does dim llawer o bethau’n codi gwrychyn cymaint â phriodas gyfartal a’r eglwys.  Pan ysgrifennais i fy llythyr bugeiliol yn 2017, cefais tua 50% (hanner cant) yn fwy o ohebiaeth na phan ysgrifennais i ar bwnc hanfodol, tebyg, efengylu, tua 12 mis yn ddiweddarach.  Fe allwn ni ddyfalu pam fod hyn yn codi gwrychyn yn fwy na fawr ddim arall.  I rai, mae’n dangos symudiad sydd i’w weld gymaint yn groes i’r drefn naturiol.  I eraill, does yna ddim digon o draddodiad yn yr eglwys i gefnogi ymestyn y drefn sefydlog.  I eraill eto, terfynau tynn tystiolaeth yr Ysgrythurau sy’n cyfrif.  Mae torri gair y Beibl yn golygu torri gair Duw ac yn annerbyniol. 

Roedd yn ddiddorol gweld mor danbaid oedd y dadleuon yn erbyn, yn enwedig oddi wrth y rhai yr oedd neges yr Ysgrythur ynghylch hyn yn hollol glir iddyn nhw.  Roedd yr iaith, yn ddieithriad, hyd yn oed pan oedd yn cael ei mynegi fel iaith draddodiadol academia, yn llawn dicllonedd ac, weithiau, ddirmyg.  Mae gweld tanbeidrwydd fel hyn yn gwthio i mewn i sgwrs resymol yn gwneud i rywun ofyn beth, mewn gwirionedd, sy’n gwthio’r drol ddiwynyddol. 

Un o’r meysydd sydd heb gael fawr ddim sylw yw’r un o ganlyniad diwinyddol. Y tu ôl i lawer o’r rhethreg mae yna’n aml ofn yn cuddio y bydd rhywbeth yn digwydd os byddwn ni’n caniatáu i rywbeth ddigwydd, yn enwedig newid radical.  Mewn gwirionedd, hyn yw Chicken Liken ar ffurf disgwrs moesol a chymryd penderfyniadau.  Mae’r rhai sy’n dadlau mor angerddol dros gadw pethau fel ag maen nhw ofn y bydd yr awyr yn disgyn ar eu pennau.

A yw’r ofn hwn yn ddilys?  Pan fyddwn ni’n troi’n ôl at dudalennau’r Hen Destament, fe allen ni feddw ei fod.  Y cyhuddiad y mae Duw’n ei osod yn gyson gerbron yr Israel wrthgilgar yw ei bod wedi gwyro oddi wrth ffyrdd yr Arglwydd.  Mae’r model o achos a chanlyniad yn drawiadol yn nhystiolaeth llawer o’r proffwydi:  dewiswch x a byw, neu y a marw.  Mae gan weithredoedd eu canlyniadau. 

Mae’r ffordd yma o feddwl yn hynod ddiddorol yn y ffordd y mae’r cymundod Anglicanaidd yn ceisio llywio o gwmpas rhywioldeb dynol a’r ddisgyblaeth rhyng- gymundod: bydd eglwysi sy’n awdurdodi litwrgi ar gyfer gweinyddu perthynasau o’r un rhyw yn dioddef canlyniad anorfod eu gweithredoedd:  maen nhw’n eistedd y tu allan i’r cyrff sy’n penderfynu yn y teulu Anglicanaidd.

Yn y Testament Newydd, mae thema barn yn real ac yn nerthol.  Mae Paul yn trafod hyn yn Rhufeiniaid 1. Mae digofaint Duw’n cael ei ddatgelu wrth i berthynasau a ffyrdd o ymddwyn arferol dorri i lawr.  Mae anarchiaeth fel hyn yn arwain at fwy o wrthgilio oddi wrth Dduw, mwy o anlladrwydd a’r gosb briodol ar gyfer y fath wrthgilio.  Mae’r model o achos a chanlyniad yn gryf ac yn glir. 

Mae’n hollol deg, felly, gofyn beth oedd y canlyniadau i’r rhai sydd wedi gweinyddu priodasau o’r un rhyw a phartneriaeth sifil.  Yn ôl y model Rhufeinig (a phrawf teg, felly, o ddilysrwydd y berthynas) fe allwn ni ddisgwyl tor-perthynas tebyg a llanast moesol.  Mewn gwirionedd, yr hyn a welwn ni yw cynnydd mewn gras a sefydlogrwydd. 

Mae trafod hyn i gyd yn rheidrwydd ac yn gofyn bod yn hynod, hynod ofalus.  Mae gennym ni lawer i’w ddysgu yn ogystal ag i’w gyfrannu i lawer o’r trafodaethau ar hyn o bryd ynghylch beth yw ystyr a sut mae’n teimlo i drafod rhywedd, hunaniaeth, rhywioldeb pobl, priodas a phartneriaeth.  Yn ogystal â bod yn destun rhyfeddod i lawer mae yma hefyd ddeinameg grym pwysig sy’n gofyn am sensitifrwydd, gwrando’n astud a bod yn fodlon teithio gyda’r rhai sy’n teimlo nad oes neb yn eu deall, neb yn gwrando arnyn nhw a phawb yn eu hanwybyddu. 

 Yn ogystal â’r pethau hyn, neu efallai sy’n sail i’n hagwedd yn eu cylch, yw’r ffordd rydyn ni’n meddwl am awdurdod yr ysgrythur a sut rydyn ni’n deall ac yn dehongli gair Duw.   Mae gennym ni gymaint o waith i’w wneud i arfogi’n hunain yn gysyniadol ar gyfer ein taith Gristnogol  Oni bai ein bod ni’n treulio amser i ddysgu a thrafod gyda’r rhai rydyn ni’n eu cyfarfod ar y ffordd, rydyn ni mewn perygl o ruthro ymlaen yn ddi-ddeall ac efallai’n haeddu tynged Chicken Licken a’i griw gyda Foxy Loxy. 

Diweddglo

Yn y papur byr hwn, rwyf wedi ceisio dangos y pethau sy’n rhwystro’r eglwys rhag cymryd penderfyniadau dewr.  Un yw’r maes o fentrau gweinidogaethol ac un arall yw polisi cymdeithasol.  Maen nhw i’w gweld yn eithaf gwahanol ond yr hyn sy’n eu huno yw’r ofn y byddai newid yn drychinebus.  Yr hyn sy’n dod yn gynyddol glir, fodd bynnag, yw mai’r gwrthwyneb sy’n wir, os yn gostus.  Os byddwn ni’n dal i aros ar y llwybrau bywyd rydyn ni wedi’u hetifeddu, a dim ond ar y rhain, byddwn yn mynd ar ein pennau, yn dawel, i’r tywyllwch.  Mae dewrder yn mynnu ein bod yn gwneud yn wahanol, er mwyn Crist.  Rhaid i ni beidio anghofio Chicken Licken. 

+Andrew Bangor

Add comment

By canonrobert

Recent Posts

Recent Comments

Archives

Categories

Meta

canonrobert

Get in touch

Quickly communicate covalent niche markets for maintainable sources. Collaboratively harness resource sucking experiences whereas cost effective meta-services.