
Caru fel na fu erioed o’r blaen
Yn nhymor y Nadolig, hoffwn ddechrau drwy ddymuno i chi i gyd Nadolig diogel, llawn llawenydd a hapusrwydd. Mae’n annhebyg y cawn ni lawer o flynyddoedd fel yr un rydym wedi’i bod trwyddi, felly mae gan bob un o’r geiriau hyn ystyr ychwanegol: diogel a llawn llawenydd. Rwyf yn gweddïo y bydd hynny’n wir i chi a’ch teuluoedd.
Rwy’n ymwybodol iawn o’r rhai sydd wedi talu’r pris trymaf yn ystod y pandemig. Y rhai sydd wedi colli eu bywydau, y rhai sy’n galaru, y rhai mae patrwm eu bywydau wedi cael ei aflonyddu, sydd wedi’u gadael yn teimlo’n ddryslyd, a’r rhai sydd wedi’u hynysu oherwydd prin eu bod yn cael cysylltu â phobl bellach. Ond rhaid i unrhyw beth rydym yn ei ddweud yn fwy na hyn beidio ag anwybyddu’r ffaith syml fod eleni wedi bod yn alaethus ac heriol. Allwn ni ddim dweud unrhyw beth a all guddio’r effaith mae hyn wedi’i gael ar ein cymunedau, ar ein gwlad ac yn wir, ar y byd cyfan.
Mae yna ffordd o adrodd stori’n Nadolig, wrth gwrs, a allai wneud yn union hynny. Dydyn ni’n helpu dim arnom ni’n hunain drwy ramantu am stori sy’n llawer mwy ciaidd nag y mae’r cardiau a’r addurniadau byrhoedlog yn ei awgrymu. Ond mae’n bosibl gweld hyd yn oed adroddiad cywir o’r stori fel ymdrech i leihau neu feddalu’r ergyd o effeithiau Covid-19. Mae storïau angen dehonglwyr sy’n cysylltu’r neges gyda’n un ni er mwyn i ni allu wneud synnwyr o beth sy’n digwydd neu o leiaf feddwl sut i dreiddio drwy’r drysni.
Ac felly, rwyf eisiau dewis dau beth o’r stori sydd mor adnabyddus, sy’n siarad â mi o’r newydd eleni. Y cyntaf yw sut y siaradodd Duw: wrth fugeiliaid wrth eu gwaith yn y caeau agored. A Duw sy’n gallu cyfathrebu fel hyn, sydd â rhywbeth i’w ddweud. Yn yr achos hwn newyddion da o lawenydd mawr oedd hynny, a fyddai’n gadael ei ôl ar bopeth mewn hanes o’r funud honno ymlaen. Dywedodd rhywun am y gweithwyr hyn ar y mynydd ‘Mae Duw yn mynd at y rhai sydd ag amser i’w glywed – ac felly fe aeth at fugeiliaid syml. Doed dim rheswm, os oes gennym glustiau i wrando, pam na ddylai unrhyw un allu clywed hynny.
Mae’r Nadolig felly, ynghylch Duw na fydd yn aros yn ddistaw ond sy’n siarad wrth wead y byd hwn. Mae’n rhaid bod gan Dduw o’r fath rywbeth i’w ddweud am bopeth sy’n digwydd. Dydw i ddim ym meddwl fod hynny’n golygu y dylen ni ymdrechu i weld rhyw ddiben cudd fel pe deuai yn glir un diwrnod ac y byddwn ninnau’n dweud ‘Aha, felly, dyna pam’. Ond ni all Duw sy’n dod i ganol bywyd, i mewn i fywydau cyplau ifanc neu i lwch tref fechan mewn rhan anghysbell o’r byd, fod yn ddi-deimlad neu’n groen dew ynghylch beth sydd wedi digwydd i’n byd.
A daw hynny â ni at y peth nesaf yr hoffwn ganolbwyntio ein meddyliau arno. Daeth y plentyn hwn â Duw. Hebryngodd ei ddyfodiad y Deyrnas, daw y ffordd rydym ni i gyd yn ei gredu sy’n wir am Dduw yn real ac yn amlwg ble bynnag y mae’n gafael.Felly, yn yr efengylau, rydym yn darllen sut mae’r colledig yn dod adref, y rhai sâl yn cael eu gwella a’r newynog yn cael eu bwydo. Rydyn ni’n gweld y tosturi oedd gan Iesu at bobl a, bron iawn, yn dangos beth ddylai bywyd gwbl dynol fod.
Mae’r mater o werthoedd wedi’i ei dynnu i’r amlwg o’r newydd gan Covid . Mae wedi gwneud i ni ofyn cwestiynau nid yn unig am wydnwch ond beth ddylai nodweddion bywyd mewn cymdeithas fod. Ar hyn o bryd, mae Dr Mark Carney, cyn Lywodraethwr Banc Lloegr, yn traddodi’r darlithoedd Reith ar gyfer 2020 ac yn trafod y problemau ynghylch gwerthoedd yng ngoleuni Covid . Yn graff iawn, mae’n gweld fod gwerthoedd yn cael eu dehongli’n bennaf trwy lygaid y farchnad ac arian.
Mae’n dweud y gallai ‘lledaeniad y farchnad danseilio cymunedau; un o’r pethau pwysicaf sy’n penderfynu hapusrwydd’.
Pwynt Dr Carney yw bod meddylfryd y farchnad wedi heintio’r ffordd rydym yn deall gwerthoedd. Rydyn ni’n gosod pris ar y rhan fwyaf o bethau ac yn barnu popeth yn ôl faint mae’n ei gostio. Yn ddiddorol iawn, un o’i atebion yw ffurfio gwyleidd-dra newydd drwy’r holl gymdeithas.
Ond cafodd y Crist-Frenin ei eni er mwyn i fywyd yn ei gyfanrwydd gael ei arwisgo gyda daioni gan Dduw sy’n bendithio ac yn trawsnewid, nad yw’n poeni am arian ac sy’n anhunanol o gymeriad. I Gristnogion yn enwedig, mae cael ein lapio yn y cariad hwn yn creu awydd newydd i wasanaethu. Ni allai’r bugeiliaid hynny ffrwyno’u llawenydd ar ôl clywed y newyddion gan ei rannu gydag eraill; ni ddylai newyddion da fel hyn gael ei gadw’n gudd. Felly hefyd fendithion yr holl gread: nid ar gyfer yr ychydig y bwriadwyd y rhain ond ar gyfer y lliaws. A phan mae’r eglwys yn deall sut mae’n cael ei charu gan Dduw, wedi’i rhyddhau i wasanaethu, dyna pryd y mae’n gallu dysgu beth yw cariad.
Tybed ai un o’r pethau mae’n rhaid i ni ei ddysgu o’r cyfnod hwn yw y dylen ni garu fel nad ydym erioed wedi caru o’r blaen? Y gwrthodedig, y rhai sydd ar yr ymylon, yr unig a’r ynysig? Os yw cariad at Iesu’n llosgi tu fewn i ni adeg y Nadolig hwn, oni ddylem ni ddarganfod sut y gallai hynny dywynnu ohonom mewn gweithredoedd bendigedig o garedigrwydd a thosturi?
Dechreuais drwy ddisgrifio beth oedd y flwyddyn hon yn ei olygu i lawer ac, erbyn hyn, rwy’n awgrymu, nid i egluro na chyfiawnhau hyn o gwbl, mai ein hymateb gorau fyddai dysgu un o’r gwersi mwyaf sylfaenol a ddysgodd Iesu, sef bod nerth cariad yn goresgyn. “Os bydd gennych gariad tuag at eich gilydd‘’ meddai ‘wrth hynny bydd pawb yn gwybod mai disgyblion i mi ydych’ (Ioan 13:35). Mae ble mae cariad yn dechrau’n llai pwysig na ble mae’n gorffen ac yma rydym yn troi’n ôl at y stori honno a neges yr angylion a rhyfeddod y bugeiliaid ond sy’n atseinio hefyd yng ngeiriau Sant Ioan: ‘Carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab.’
Os fel hyn yr oedd Duw yn ein caru ni, felly y dylem ni garu’r byd y daeth i’w achub.