Y Normal Newydd?

Y
Normal Newydd? Gwasanaeth awyr agored yn Eglwys S Mihangel, Llanfihangel Din Sylwi (Bro Seiriol, Ynys Môn). Cynhaliwyd y gwasanaeth tu allan adeilad yr eglwys oherwydd bod mwy o bobl am fynychu nag y gallant ffitio y tu mewn i’r adeilad o dan gyfyngiadau Cofid-19 presennol.

This text is available in English here

Mae llawer yn ceisio dod i ddeall y goblygiadau i’r wlad yn sgil pandemig Covid-19. Mae rhai lleisiau’n dadlau dros ddychwelyd at y ffyrdd traddodiadol sy’n gyfarwydd inni’i gyd. Mae eraill yn gofyn inni ystyried mai dyma’r cyfle i ailwampio bywyd a chymdeithas yn gyfangwbl: mae’r hen ddulliau wedi torri a does dim trwsio arnyn nhw. Yr hyn sydd ei angen, medden nhw, ydy dim byd llai na mynegiant newydd o fywyd, gan gyflwyno blaenoriaethau a ffocws newydd i gymdeithas.

Mae llawer o’r drafodaeth wedi ei chynnal dan deitl ‘y normal newydd’ ac wedi llithro’n gyfleus i ryw rigol o dderbyn priodoldeb yr ymadrodd yn dawel, ddi-gwestiwn fel sylfaen i fynegiant cywir ac addas o’r sefyllfa. Ond ydy hyn yn wir? Yn y papur hwn, dwi am edrych ar yr ymadrodd hwn mewn perthynas â’r eglwys yn bennaf ond hefyd, holi p’un ai a all greu pwysleisiadau sy’n berthnasol i gymdeithas yn ehangach.

Newydd?

Mae’r gair ‘newydd’ yn un hyblyg tu hwnt. Mae’n gyffredinol iawn, heb gyfeiriad penodol. Yn y cyd-destun hwn, mae ‘newydd’ fel arfer yn golygu ‘gwahanol’. Wrth siarad, fe fyddwn ni’n sgwrsio am yr hyn ‘a fydd’ rhyw ddydd, rhyw bryd, rhyw fodd, fel tase hynny am fod yn ddigon gwahanol i’r hyn a ‘fu’, fel y gallwn ni gyfeirio ato fel ‘newydd’. Pan ystyrir ‘newydd’ fel datblygiad economaidd yn bennaf, fe fydd yn wynebu beirniadaeth gyfiawn ei fod yn hyrwyddo modd o ddeall cyfalafiaeth sy’n talu fawr o sylw i’r amgylchedd. Mae’r cynnydd a’r twf sy’n cael ei wthio a’i hyrwyddo’n ddiddiwedd yn gallu bod yn dreisgar ac arwain at ecsbloetio, gan gynnig ffordd i’r pwerus ddod yn fwy pwerus.  Yn wir, digon posib y gellid dadlau’n gyfiawn dros lai o’r ‘newydd’ ac ailosod rhywfaint o’r ‘hen’, os oes doethineb i’w gael yno. Tra bydd rhai’n gweld hyn fel enghraifft arall o sefydliad yn cymryd cipolwg cyson yn ôl ar ryw gyfnod euraidd honedig yn y gorffennol, mae hefyd yn gofyn inni ystyried pob cam a datblygiad yn ofalus yn wrthrychol cyn bod penderfyniadau’n cael eu gwneud. Er nad ydy cyfeirio at hanes ailagor y pydewau yn Genesis 26:18 o bosib yn sail ddigonol i’w ddyfynnu ar gyfer pob newid arfaethedig, ond mae’n awgrym o’r ffordd mae mynd i’r afael â diffygion trwy ryw fodd gwahanol i ddatblygu yn enw cynnydd yn unig. Mae’r stori hynafol hon, gyda’r islais o dyndra gwrthwynebus a styfnigrwydd disymud yn codi cwestiynau am y ffordd rydyn ni’n enwi ein dadleuon ac a oes, mewn gwirionedd, unrhyw ateb llwyr yn bosib i’r rhain cyn inni ddychwelyd at yr hyn a ddaeth â bywyd a bendith inni yn y lle cyntaf.      

Mae’r lleisiau sy’n dadlau fod Covid-19 yn caniatáu ailadeiladu economaidd sy’n benodol ‘wyrdd’ yn ymddangos fel tasen nhw’n colli tir i’r rhai sy’n dadlau fod y trafferthion a’r heriau economaidd mor fawr fel bod yr heriau amgylcheddol yn gorfod ildio blaenoriaeth i’r angen am adferiad economaidd. Mae grym y ddadl hon yn ddilys, pwerus a thaer yn y trafodaethau yn ymwneud â chytundebau masnach newydd yn dilyn ein hymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n mynd i’r afael â mater presennol cyllid a chyflogaeth cenedlaethol a gwasanaethau angenrheidiol. I’r Eglwys, sy’n wynebu materion ynglŷn â phwy fydd yn dychwelyd i addoli’n gyhoeddus o ran niferoedd, breuder nifer o’n gwirfoddolwyr ac ariannu’r weinidogaeth bresennol, mae’r elfennau sy’n eu’n gyrru, er yn wahanol eu natur, yn ddim llai real.

Mae’r wireb ganlynol yn un y gellir dysgu oddi wrthi: gyda phob her daw cyfle. Yr hyn sydd gan yr Eglwys ddigonedd ohono, wrth gwrs, ydy eiddo a mannau agored, yn bennaf adeiladau eglwys a mynwentydd. O ran mannau agored, mae rhai ohonyn nhw’n cael gofal tyner eglwys neu grŵp cymunedol lleol, ond mai eraill yn aml yn cael eu hesgeuluso. Mae’r mudiad ail-wylltio tir (a dad-ddofi bywyd yr eglwys yn ddiweddar), hyd yn oed os na chawson nhw groeso llwyr, wedi bod yn fodd i atgoffa cymdeithas fod amrywiaeth, nid yn unig yn drefniant da gyda natur, ond yn gyfle i ymgysylltu gyda’r rhai hynny sydd heb fod yn cyfranogi ym mywyd eglwys na chymuned. Fe all y cyfle i arbrofi’n briodol gyda mynwentydd eglwys, gyda bwriadau ail-wylltio a’r amgylchedd mewn golwg, brofi i fod yn un o’r mentrau mwyaf cyffrous y gallen ni, fel eglwys, ei ddarparu. Mae enghreifftiau lu lle mae arbrofi wedi digwydd gyda hyn ac wedi cael croeso. Mae’n annhebygol o fod yn ddrud, fe fyddai’n gwahodd rhanddeiliaid i gyfranogi, yn fodel da o stiwardio ac yn dangos ffydd ar waith.  

Ar lefel fugeiliol yn unig, mae’n bosib bod y ffordd rydyn ni’n gofalu am ein mynwentydd yn dweud rhywbeth, nid yn unig am ein gofal dros y byw, dros berthnasau, ond hefyd yr hyn a gredwn am yr atgyfodiad.    

Os oes gan yr uchod unrhyw werth mewn perthynas â mynwentydd, gellid dweud yr un peth am adeiladau eglwysi. Y gwahoddiad bellach ydy symud o weld y llefydd hyn fel mannau cyfarfod i’r ffyddloniaid at wagle neu ofod i ailddychmygu traddodiad, ailfeddwl ac adfer hanes a doethineb. Hyn oll er lles a budd i’r gymuned gyfan ac nid cymuned y ffydd yn unig. Wrth inni ystyried fod y rhan fwyaf o’n heglwysi’n aros ynghau yn ystod yr wythnos, mae’r her i bob cymuned eglwys yn sylweddol.

Mae’r potensial sydd gan ein hadeiladau i fod yn fannau i adrodd ein stori o’r newydd, canolfannau gyda gwagleoedd mewnol (heb orfod tramgwyddo rheolau na rheoliadau) a all ddisgrifio a hwyluso ffydd newydd a gweinidogaeth newydd, yn gofyn am well dychymyg a dewrder nag a welwyd dros yr 50 mlynedd ddiwethaf, ond mae’n gwbl bosib os ydy’r arweinyddiaeth yn eofn ac yn fodlon mentro a cheisio ailddiffinio’r hyn a ddeellir ydy gweinidogaeth.  

Bydd llawer yn gweld datblygiad o’r fath yn gyfeiliornus a mynnu diwedd i’r holl ddiwygio hyn. Does wybod yn union pwy fydd yno i dalu’r deyrnged olaf ac wylo ar lan bedd yr ‘ymadawedig beth’. Ond un peth sy’n sicr, fe ddylen ni, fel disgyblion Cristnogol, sicrhau nad ydyn ni’n ffarwelio â’r union beth sy’n dod â bywyd ac egni i fyd sydd mewn taer angen newyddion da.

Os oes gwersi i’w dysgu gan yr eglwys ac y gwelir ailwampio bywyd ac egni, mae hyn yr un mor wir hefyd i gymdeithas ar y cyfan. Mae’n annhebygol o ymddangos mewn unrhyw faniffesto gwleidyddol nac arwain at ennill etholiad, ond fase chi’n cytuno fod ailgydio mewn ymdeimlad o gymdogaeth yn un o ganlyniadau cadarnhaol, er mor annisgwyl, y pandemig? Yr enghreifftiau o gymunedau’n cydweithio er lles eraill, yn enwedig y bregus a’r rhai dan anfantais? Nid ‘newydd’ ydy’r rhain – maen nhw cyn hyned ag amser dyn ar y ddaear ac yn rhai sydd angen eu hailfeithrin a’u hadnewyddu o genhedlaeth i genhedlaeth.

Normal?

Ond mae yna ‘hen’ arall i’w ailddarganfod yma ac mae’n canoli ar y diddordeb sydd o’r newydd mewn pererindota. Mae arloeswyr diwinyddiaeth y pererin wedi ein hatgoffa fod y daith cyn bwysiced â’r cyrraedd a bod bywyd, yn ei hanfod, yn fwy byrhoedlog, newidiol a datblygol na’r drefn sefydlog sy’n deillio o arferion a phatrwm bywyd cyson. Mae’r awgrym na chawn ni fyth eto, efallai, fwynhau unrhyw beth a ystyrir yn ‘normal’ am fod yn fygythiad gwirioneddol i rai ond fe all fod yn wir fod newidiadau a symudiadau ysbeidiol a sydyn yn amddifadu cymdeithas, ac felly’r eglwys, o’r realaeth hon am byth. Ni ellir pwysleisio digon tystiolaeth yr eglwys yn y ddeinameg hon, gan y bydd yn canu cloch gyda chymdeithas sydd, heb unrhyw naratif crefyddol, yn deall eto fod bywyd yn wirioneddol ansicr a chyfnewidiol. Ond hanfod neges Cristnogaeth erioed ydy nad ydyn ni’n gorfod teithio wrth ein hunain. Mae’r gwahoddiad yma rŵan, fel y bu trwy amser, i gerdded gyda Duw trwy holl dymhorau bywyd. Mae hyn yn cynnig angorfa ar y daith neu’n fwy priodol, cyfeillach ac efallai rhywfaint o gyfeiriad.

Bydd gofyn i’r eglwys ailddarganfod ei thystiolaeth i’r ddeinameg hon hefyd. Os ydy adeiladau’n cael eu cynnig fel mannau i ddarganfod ac arbrofi, mae’n bosib hefyd y bydd angen i fywyd mewnol yr eglwys gael ei fynegi fwyfwy y tu allan i’r adeiladau hyn, mewn grwpiau llai, gyda phwyslais newydd ar y rhyngwyneb rhwng cymdeithas sydd, ar y cyfan, yn ddifater ynghylch yr eglwys o ran gwerthoedd ac ysbrydolrwydd. Oddi allan i strwythur ei meini sefydlog, efallai y gwnaiff yr eglwys ei hun ddysgu ailddarganfod anian cyneddfau’r pererin a holl ystyr ei bodolaeth, sef i fynd a rhannu’r newyddion da mewn gair a gweithred. Mae ein profiad o’r pandemig hwn wedi rhoi rhyw gipolwg inni o’r hyn sy’n bosib a bod gan yr eglwys y modd a’r gallu i chwim a hyblyg i ymateb i newid. Er nad ystyriaethau economaidd fydd yn gyrru’r camau hyn yn bennaf, mae’n rhaid cyfaddef fod costau gwresogi a goleuo adeiladau am gyfnodau gweddol fyr yn sylweddol.

Casgliadau

Yn y papur hwn, dwi wedi ceisio archwilio rhai o’r ddeinameg sydd efallai’n bodoli ar hyn o bryd. Dwi wedi canolbwyntio ar yr ymadrodd ‘y normal newydd’ ac wedi ceisio dangos ei ddiffygion mewn modd o drïo deall ein sefyllfa bresennol. Dwi wedi awgrymu fod yr argyfwng a amlygwyd ac a ddigwyddodd fel canlyniad i Covid-19 yn gofyn inni ail-werthuso rhai o’r rhinweddau y mae rhai, efallai, yn eu hystyried yn ‘hen ffasiwn’ ond y gellid eu cymhwyso’n ehangach yng nghyd-destun bywyd eglwys. Mae’r ffocws ar eglwys fel lle y gellid archwilio’r pethau hyn orau yn arwydd o hyder yn y Duw sy’n gwneud popeth yn newydd ac eglwys sydd wastad ar ei gorau pan fo hi’n ddewr ac yn gwrando ar yr Un sy’n dweud, ‘Dilyn fi’.+Andrew Bangor

Add comment

Recent Posts

Recent Comments

Archives

Categories

Meta

canonrobert

Get in touch

Quickly communicate covalent niche markets for maintainable sources. Collaboratively harness resource sucking experiences whereas cost effective meta-services.