Gyda chyfyngiadau’r cyfnod clo yn disgyn ar lawer o’r wlad unwaith eto a mwy o bobl yn cael eu heintio, mae ein sylw, eto fyth, yn cael ei hoelio ar realiti ansicrwydd. Nid yw’r ansicrwydd hwn yn gyfan gwbl annisgwyl; roedd gwleidyddion a gwyddonwyr meddygol wedi rhybuddio y byddai ail don y pandemig yn cyrraedd erbyn misoedd y gaeaf.
Ond daeth yr ail don yn gynharach na’r disgwyl, sy’n codi’r cwestiynau a yw polisi cymdeithasol wedi cyfrannu’n uniongyrchol at amseriad a lledaeniad y firws. Yr hyn sy’n gwneud yr ail don mor niweidiol yw ei bod yn bygwth unrhyw adfer ar ôl y cyfnod clo cyntaf. Mae busnesau’n honni fod yr ail gyfnod clo hwn yn tanseilio’r adfer ar ôl y cyfnod clo cyntaf, yn creu ansefydlogrwydd ac yn niweidio hyder, sydd eisoes yn hynod fregus. Mae’n ymddangos mai ansicrwydd sefydlog fydd y ‘normal newydd’ ac y bydd yn anodd, ac yn broblem paratoi, hyd yn oed y cynlluniau mwyaf syml.
Mae effeithiau’r pandemig ar swyddi a ffyniant yn amlwg ac yn real, ac er bod astudiaethau ar raddfa a difrifoldeb y difrod ar iechyd meddwl yn dal ar y gweill, dim ond ychydig iawn sy’n amau y bydd canlyniadau’r cyfnodau clo yn ddwys ac yn hir dymor. Yr hyn sydd wedi gwneud her y pandemig hwn mor neilltuol yw nad ydym ni, ers yr ail ryfel byd, wedi arfer â’r math o amddifadedd y mae’n ei greu. Dydyn ni, yng ngorllewin Ewrop, ddim wedi arfer dygymod â gorfod byw gyda’r math o fywyd bregus mae ein brodyr a’n chwiorydd mewn rhannau eraill o’r byd yn ei gymryd yn ganiataol.
Dyw’r heriau mae’r eglwys yn wynebu fawr gwahanol i rai mewn rhannau eraill o gymdeithas – colli economi, cefnogwyr, morâl ac efallai, yn waeth na dim, colli gweithgareddau a dod at ein gilydd. Pan mae llawer iawn o’r ffordd rydyn ni’n gweld ein gilydd wedi gwreiddio yn y pethau rydym ni’n eu gwneud, gallai colli hynny sigo ein hunaniaeth. Yn ôl rhai arwyddion cynnar, gallai rhai gweinidogion a rhai eglwysi, wedi’u hamddifadu o’r tasgau allweddol, ei chael yn anodd i ail uniaethu neu gynnal gweledigaeth o weinidogaeth sy’n nerthu.
Y cwestiwn rwyf eisiau ei drafod yn y papur hwn yw a oes yna enghreifftiau yn yr Ysgrythur a allai fod yn fodel o fodolaeth a diben i’n cynnal ar adeg fel hyn o amddifadedd. Byddaf yn ystyried yn fyr rai digwyddiadau allweddol a thrafod a yw’r awydd dealladwy i allu rhagweld a gwybod, yn y pendraw, yn cul de sac ac a fyddai gwersi sy’n canolbwyntio ar ddisgwyl a gwrando yn fwy buddiol yn y pendraw.
Mae’r Ysgrythur Sanctaidd yn llawn o enghreifftiau o dduwioldeb yn cael ei gyflwyno mewn iaith bygwth-erfyn-iachawdwriaeth (weithiau mewn gwahanol drefn) ac o gysyniad. Mae’r Salmydd (Salm 64:1f), er enghraifft, yn galw ar Dduw i glywed ac yna weithredu yn wyneb gelynion; daeth proffwydi megis Elias yn gyfrwng traddodi, yn aml yn wyneb anawsterau enbyd (1 Brenhinoedd 17:7f). Roedd hyd yn oed frenhinoedd, oedd yn aml yn achosi yn hytrach na datrys helyntion, weithiau’n cydnabod eu dibyniaeth ar Dduw yn wyneb her (2 Cronicl 20:12). Yng nghyd-destun bygythiad firws, mae colli’r rhyddid rydym ni’n ei gymryd yn ganiataol, a cholli cyfleoedd a swyddi, yn taro tant gyda’r hanesion hyn o fygythiadau a heriau.
Mae bygythion o bla a heintiau yn gyffredin iawn yn yr Ysgrythurau. Yn stori’r ecsodus, daeth y clefyd nychu yn uniongyrchol oddi wrth Dduw. Nid dyma’r tro cyntaf i haint ddod fel barn – teimlodd Pharo ganlyniadau twyll Abram oherwydd Sarai. Mae’r ddedfryd hon a ‘gamleolwyd’ yn canolbwyntio llai ar wrthrych y ddedfryd nac ar y drosedd o dorri gorchymyn a chyfraith ddwyfol. Mae’r hyn sy’n ymddangos yn ddiwahân, hyd yn oed yn afresymol, yn colli’r pwynt; mae’r stori ynghylch y cysylltiad clos rhwng Duw a chyfraith, sydd wedi’i wau i ddeunydd y cread. Mae torri’r gyfraith yn drosedd yn erbyn Duw, waeth pwy sydd ar fai.
Ond mae yna hanesion eraill yn yr Ysgrythurau, a ddylai fod yn yng nghanol y llwyfan ar hyn o bryd, sy’n gwahodd yr eglwys i ail ddysgu’r patrymau a’r rhythmau oedd wedi ei harwain yn y gorffennol ac a allai ei harwain eto. Realiti’r pla yn y salmau yw’r bygythiad sy’n gwahodd erfyn a gwaredigaeth. Ond nid yw bagl yr heliwr na phla difäol yn ddim o gymharu â iachawdwriaeth Iahwe os bydd y ffyddloniaid yn gwneud y Goruchaf yn amddiffynfa (Salm91).
Yr hanesion sy’n gosod y seiliau mwyaf amlwg ar gyfer gweithio yw’r digwyddiadau mwyaf sylfaenol yn yr Hen Destament. Mae profiadau’r yn yr anialwch yn Ecsodus a’r hanesion o garchar ac o alltudiaeth yn dyst i’r un profiad o her a bygythiad. Mae’r ddau hefyd yn disgrifio cysylltiad newydd â Duw ac o ail ffurfio patrymau a dealltwriaeth sefydlog. Yn y ddau hanes, ai yn digwydd yr un pryd mewn hanes â’r ‘digwyddiadau’ ai peidio, mae yna addewidion penodol yn dangos canlyniad penodol a hefyd orchmynion mwy cyffredinol sy’n awgrymu fod ymateb i’r heriau gyda ffyddlondeb a dim mwy yn hollol dderbyniol. Hyd yn oed pan nad yw’r patrwm hwn yn hollol gyson, mae’n ddigon cyson i awgrymu nad ‘atebion’ yn unig sydd yma ond ymateb ffyddlon.
Mae nodweddion stori Ecsodus yn ddrama epig o’r tro cyntaf y mae Moses yn cyfarfod â Duw a’i anfodlonrwydd i wneud dim llawer mwy na bugeilio’r praidd hyd at y foment y mae’n sylweddoli na fydd yn gweld gwlad yr addewid yr hiraethodd gymaint amdani. Yn rhedeg trwy lawer o lyfrau cynnar yr Hen Destament mae’r disgrifiad o sut y ffurfiwyd yr Hebreaid yn genedl. Yn dilyn bygythiad Pharo, daw bygythiad newydd, sef dysgu bod yn ffyddlon yn ehangder yr anialwch. Y cyfnod o grinder yw’r cyfnod o sefydlu’r gyfraith. Mae’r cyferbyniad rhwng tirwedd clir y ffin gyfreithiol a bywyd mwy bregus o amddifadedd yn awgrymog.
Daw’r anialwch digroeso yn gyd-destun felly ar gyfer y ffurfiant y mae’r gyfraith yn gofyn amdano. Mae yna her ymhlyg yn y ddau: mae natur o’u cwmpas yn giaidd a chreulon, ac nid yw gofynion y gyfraith yn llai llym. Mae un yn dangos y cyd-destun, y llall yn dangos y ffordd o fyw ynddo.
Mae’r alltudiaeth hefyd yn cynnwys taith a dadleoli. Y tro hwn, o Jerwsalem i Fabilon. I rai, roedd hwn yn gyfnod o garchar, i eraill roedd yn gyfle gwych i fanteisio’n economaidd. Ond er hynny, roedd cael eu dadleoli o wlad yr addewid yn brofiad chwerw i’r rhai oedd yn ofni Duw. ‘Sut y medrwn ni ganu cân yr Arglwydd mewn tir estron (Salmau 137.4) oedd eu cri – ymhell o Seion, ymhell o Dduw eu hargyhoeddiad.
Roedd y symudiad yn y ffordd yr oedd Duw’n cael ei weld ymhell o wlad yr addewid yn sylfaenol. Agorodd y profiad newydd o Dduw y ffordd i ffydd fynegi ei hun, wedi’i rhyddhau i’i dadleoli, hyd yn oed pan oedd y wlad yn dal yn addewid bod dychwelyd iddi’n ddisgwyliad cadarn. Roedd y darganfyddiad hwn (fel yng ngweledigaethau Eseciel wrth afon Cebar) nid yn gymaint o newid y patrwm diwinyddol – roedd Iahwe wedi cael ei addoli’n Duw nefoedd a daear ers cryn amser – ag o godi Duw o le penodol, o ddarn penodol o dir, ac awgrymu nad un ffordd yn unig sydd yna o edrych ar, a darganfod, a dod i adnabod, yr Arglwydd.
Yn y Testament Newydd, gallwn gyfeirio at brofiadau Paul sy’n cael eu hadrodd yn 2 Corinthiaid 12:1f neu o’r apostol, mewn carchar Rhufeinig ond yn llawn gobaith a hyder o’r atgyfodiad (Philipiaid 3:10). Mae’r ddau yn dangos nad yw’r cyd-destun yn cyfyngu ar ffydd nad yw’n gallu gweld beth yw’r diwedd ond sy’n gwahodd ffydd ac ymddiriedaeth. Mae ffydd yn cael ei ffurfio gan gyd-destun ond nid yw’n cael ei erydu ganddo.
Sut y gallai’r sylwadau hyn effeithio arnom ni heddiw? Mae’n hawdd ceisio darganfod diben moesol neu ddiwinyddol yn y digwyddiadau o’n cwmpas: beth mae’n ei olygu neu beth yw gwers Duw? Er yn ddealladwy, mae’n debyg nad dyma’r cwestiynau y dylid eu gofyn. Y tu ôl i fynegiant ffydd, mae’r syniad fod Duw yn cyfeirio digwyddiadau, fel rhyw chwaraewr gwyddbwyll dwyfol, yn gyfeiliornus. Mae’r profiad o ecsodus ac o alltudiaeth yn awgrymu fod yna gryn dipyn i’w ddysgu a bod y grefft o ystyried yn fyfyrgar yn dod ag atebion sy’n awgrymu nid yn gymaint atebion ond cyfarwyddiadau, sut i aros yn ffyddlon pan fo bywyd yn gwasgu ac yn heriol.
Mae’r eglwys yn rhannu’r amddifadedd sydd i’w deimlo ar draws cymdeithas ar hyn o bryd. Mae cyfyngiadau ar addoli o dan do, problemau ynghylch cyfarfodydd cymdeithasol ac, i weinidogion, bod llawer o’r cysylltiadau wyneb yn wyneb, mewn argyfwng neu’n fwy cyffredinol, yn hynod o anodd eu cynnal. Mae llawer iawn o weinidogaeth wedi’i gyfyngu neu wedi crebachu gymaint nes bod dryswch ac ansicrwydd yn heriau gwirioneddol. Ac eto, o fewn hynny, mae yna ail drefnu addoli a chenhadu ar lein, ac, wrth i’r Nadolig ddynesu, mae yna greadigedd o amgylch defnyddio carolau a dathliadau’r gaeaf sy’n awgrymu fod addasu’n fwy naturiol a greddfol nag a fydden ni’n dybio.
Yn y Testament Newydd, tystiolaeth Sant Paul oedd nad oedd yn adnabod yr ‘olygfa bell’ ond ei fod yn gwybod bod yn rhaid iddo fod yn ffyddlon tan y diwedd un. Nid dal i lynu at gredo nad oedd digwyddiadau bob dydd yn rhoi mynegiant iddo oedd y penderfyniad hwn. Yn hytrach, roedd yn golygu ail ddysgu ac ail ddarganfod pethau yn nhrugaredd di-derfyn Duw. Nid cyd-ddigwyddiad hapus oedd y cyfle i rannu Crist gyda holl swyddogion y carchar, roedd Paul wedi darganfod diben yn y sefyllfa, er nad oedd yn amlwg beth fyddai’n digwydd yn pen draw. A oes yna fesur ar y graddau y mae Duw’n galw arnom ni i anghyfforddusrwydd parhaus, oherwydd, o fewn pwysau o’r fath, y mae bywyd yn ymddangos. Mae Sant Paul yn cadw realiti’r groes a’r atgyfodiad gyda’i gilydd yn ei lythyr at Gristnogion Corinth oherwydd, yr union adeg y mae marwolaeth wrth ei waith, mae bywyd yn atgyfodi hefyd (2 Corinthiaid 4:12).
Mae dysgu a deall beth sy’n digwydd o’n cwmpas ac oddi mewn i ni yn golygu disgwyl yn amyneddgar, sy’n wahanol iawn i ruthr bywyd a chynnydd. Mae’n caniatáu’r cyd-destun sy’n agor llwybrau newydd i fyfyrio a dyna pryd mae diben yn cael ei ddarganfod, yn hytrach na’r rheswm pam fod rhywbeth yn digwydd. Yn y pen draw, mae’n galw arnom ni i gyd, yn ddisgyblion ac yn weinidogion fel ei gilydd, i gael ein rhwymo wrth arferion da Duw, i beidio â digalonni ac i fyw gyda’r hyn y mae’n rhaid i’r Eglwys ei ddysgu, hyd yn oed os yw hyn yn edrych fel diliau’r nef, a diliau digon pitw hefyd.
+Andrew Bangor
Recent Comments